Elin Jones AC
 Y Llywydd - Comisiwn y Cynulliad
16 Ionawr 2019

Annwyl Elin

Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) (y Bil) – darpariaethau anghymhwyso

Fel y gwyddoch, mae Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) (y Bil) ar ei daith drwy'r Cynulliad ar hyn o bryd.  Rwyf wedi nodi gwelliant, sy'n ymwneud â'r Comisiwn, yr hoffwn ei wneud i'r Bil.

Mae Atodlen 1 i'r Bil yn cynnwys darpariaethau anghymhwyso sy'n atal person sydd wedi peidio â bod yn Ombwdsmon neu'n Ombwdsmon dros dro rhag dal swydd sy'n awdurdod rhestredig neu rhag bod yn aelod o staff ac ati mewn awdurdod rhestredig (yn ddarostyngedig i rai eithriadau) am gyfnod penodol, oni bai bod Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cymeradwyo fel arall. Mae'r darpariaethau anghymhwyso perthnasol i'w gweld ym mharagraffau 7 ac 8 o Atodlen 1 i'r Bil. Mae'r awdurdodau rhestredig wedi'u cynnwys yn Atodlen 3 i'r Bil.

Ar ôl ystyried y mater hwn, nid wyf yn credu mai Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddylai benderfynu a ddylid cymeradwyo fel arall o dan baragraff 7; yn hytrach, credaf mai un o Bwyllgorau'r Cynulliad ddylai fod â'r pŵer hwn, mewn ffordd debyg i'r hyn y mae'r Pwyllgor Cyllid yn ei wneud yn achos Archwilydd Cyffredinol Cymru. Rwy'n bwriadu cyflwyno gwelliant i'r Bil yng Nghyfnod 2, er mwyn rhoi “pwyllgor o'r Cynulliad" yn lle "Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru" ym mharagraff 7(1).

Os hoffech drafod y mater hwn, rhowch wybod i Glerc y Pwyllgor (gweler y manylion isod).

Diolch

Llyr Gruffydd, Cadeirydd